Croeso i Bartneriath Bro Dysg - Addysg ar gyfer Ffyniant

English

Partneriaeth wirfoddol sy'n gyfrifol am gyfeirio addysg a dysgu gydol oes yn Rhondda Cynon Taf ydy Bro Dysg. Mae Bro Dysg yn arwain ar y delfryd a bennwyd yng Nghynllun Cymunedau'r Cyngor – cymuned lle gall pawb sy'n byw, gweithio neu sy'n ymweld â'r ardal fwynhau manteision bywyd gwell a chyrraedd ei lawn dwf, a helpu i ddatblygu a diogelu yr ardal ar yr un pryd, er lles eraill.

Nod y wefan yw ei gwneud hi’n haws ichi i gael gafael ar wybodaeth ynglŷn â gwaith  Bro Dysg. Bydd modd ichi gael gwybodaeth ynglŷn â'n partneriaid, codi dogfennau pwysig oddi ar y wefan, gan gynnwys ein strategaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf, cynlluniau gweithredu a chofnodion cyfarfodydd Bro Dysg. Bydd cyfle ichi weld ymatebion i waith ymgynghori a drefnwyd gan Bro Dysg a chael gwybodaeth am achlysuron dysgu cyffrous rydyn ni'n ymwneud â nhw yn Rhondda Cynon Taf yn ogystal.

Rydyn ni'n frwd yn ein nod o wella cyfleoedd bywyd pobl leol ac yn croesawu cyfraniadau gan bartneriaid sy'n gweld bod cyfle iddyn nhw i chwarae rhan allweddol i wireddu ein delfryd ar gyfer addysg yn Rhondda Cynon Taf.

© 2004-2009 Bro Dysg